Ychwanegir at arbenigedd tîm craidd Cedar trwy gydweithio â sefydliadau partner.
Y gronfa ddata Cyswllt Gwybodaeth Ddienw Ddiogel (SAIL)
Mae SAIL yn system cysylltu data anhysbys o'r radd flaenaf sy'n dwyn ynghyd yr ystod ehangaf bosibl o ddata a gesglir yn rheolaidd ar gyfer ymchwil, datblygu a gwerthuso. Mae SAIL yn fenter a ddatblygwyd gan y Coleg Meddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe ac mae'n derbyn cyllid craidd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru . Prif nod SAIL yw gwireddu potensial gwybodaeth ddienw a gedwir yn electronig, wedi'i seilio ar berson, a gesglir yn rheolaidd. Mae SAIL yn gweithio ar y cyd ag ymchwilwyr, gweithwyr proffesiynol gwasanaethau a diwydiant i gynnal a chefnogi ymchwil ac i wella'r modd y darperir gwasanaethau. Mae SAIL yn cael ei arwain gan ddau gyd-gyfarwyddwr: yr Athro David Ford (gwybodeg iechyd) a'r Athro Ronan Lyons (iechyd cyhoeddus ac epidemioleg). Aelodau eraill tîm rheoli SAIL yw: Kerina Jones, Caroline Brooks, Simon Thompson, Chris Jones, Rohan Dsilva a Cynthia McNerney.
Gwefan Cronfa SAIL: http://www.saildatabank.com/
SURE
Wedi'i sefydlu yn 2000, mae'r Uned Arbenigol ar Dystiolaeth Adolygu (SURE) ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynnwys arbenigwyr gwybodaeth profiadol ac adolygwyr systematig. Mae'r tîm yn nodi, yn gwerthuso ac yn crynhoi tystiolaeth gyfredol, ddibynadwy i gefnogi arfer a pholisi ar sail tystiolaeth. Mae'r Uned yn cynnwys chwe aelod o staff sydd â sgiliau penodol mewn ymchwilio llenyddiaeth uwch, arfarnu beirniadol, crynhoi'r dystiolaeth orau sydd ar gael a datblygu methodolegau ar sail tystiolaeth. Ers ei sefydlu, mae staff SURE wedi ysgrifennu 74 o gyhoeddiadau, gan gynnwys 60 adolygiad systematig, ac mae'r Uned wedi ennill mwy na £ 2.3 miliwn mewn incwm grant.
Gwefan SURE: http://www.cardiff.ac.uk/specialist-unit-for-review-evidence
Canolfan Economeg Iechyd Abertawe (SCHE)
Mae Canolfan Economeg Iechyd Abertawe (SCHE) ym Mhrifysgol Abertawe, yn darparu gwasanaeth ymchwil ac ymgynghori o'r radd flaenaf i sefydliadau yn y sector gofal iechyd. Gyda dros 60 mlynedd o brofiad a thîm o arbenigwyr economaidd iechyd, nod SCHE yw pontio'r bwlch rhwng y byd academaidd a diwydiant a bod yn arweinwyr ym maes ymchwil economeg iechyd yng Nghymru a'r DU.
Mae gan SCHE gyfoeth o brofiad ac arbenigedd o fewn y tîm, gyda staff yn ymgymryd â gwaith wedi'i gomisiynu ar werthuso rhaglenni ac ymyriadau ar gyfer ystod o sefydliadau, gan gynnwys Sefydliad Iechyd y Byd, Llywodraeth Cymru, a'r Adran Iechyd. Cefnogwyd hyn gan bortffolio helaeth o gyhoeddiadau ym meysydd economeg iechyd a pholisi iechyd a chymdeithasol, ynghyd ag adroddiadau pwrpasol ar gyfer cwmnïau ac asiantaethau sydd, mewn llawer o achosion, wedi llywio cyflwyniadau i NICE ac asiantaethau asesu eraill ar gyfer gwerthuso technoleg.
Mae Cedar yn aelod o Mediwales