Sefydlwyd Cedar yn 1977 i werthuso dyfeisiau meddygol ar gyfer Adran Iechyd a Nawdd Cymdeithasol y DU (DHSS). Cyn 2005, roedd rhaglen werthuso Cedar yn cael ei rheoli gan Wasanaeth Gwerthuso Dyfeisiau Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (yr Asiantaeth Dyfeisiau Meddygol gynt). Roedd y gwaith cynnar hwn yn canolbwyntio'n helaeth ar brofi technoleg feddygol newydd yn gorfforol.
Rhwng 2005 a mis Mawrth 2010, bu Cedar yn gweithio i'r Ganolfan Prynu ar sail Tystiolaeth (CEP), a oedd yn rhan o Asiantaeth Prynu a Chyflenwi'r GIG (PASA). Ehangodd ffocws gwaith Cedar i gynnwys adolygu beirniadol o dystiolaeth, ystod ehangach o bynciau meddygol ac ymgorffori economeg iechyd. Diddymwyd PASA y GIG a CEP ym mis Mawrth 2010. Mae gwefan yr Adran Iechyd wedi archifo catalog CEP.
Bellach darperir gwerthusiad o dechnolegau meddygol ar gyfer y GIG gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) . Mae Cedar yn Ganolfan Asesu Allanol i NICE yn y Rhaglen Gwerthuso Technolegau Meddygol .