Mae Cedar yn sefydliad ymchwil cyfun-academaidd y GIG sydd o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Phrifysgol Caerdydd. Mae'r strwythur cydweithredol hwn yn rhoi mynediad i Cedar at arbenigwyr clinigol a grwpiau cleifion yn y GIG, yn ogystal ag ymchwilwyr academaidd a gydnabyddir yn rhyngwladol. Mae Cedar wedi'i staffio gan dîm amlddisgyblaethol hynod brofiadol o weithwyr y GIG a Phrifysgol Caerdydd. Rydym wedi ein lleoli ym Medicentre Caerdydd ar dir Ysbyty Prifysgol Cymru.
Mae Cedar yn rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Caerdydd a'r Fro, un o'r sefydliadau GIG mwyaf sy'n darparu gofal iechyd yn y DU. Mae safle Cedar yn BIP Caerdydd a Fro yn darparu'r gwasanaethau cymorth canlynol i ni:
Mae Cedar hefyd yn rhan o thema ymchwil Iechyd, Technoleg a'r Byd Digidol Ysgol Beirianneg Prifysgol Caerdydd. Mae'r Ysgol wedi'i graddio yn y 10 ysgol beirianneg orau dan arweiniad ymchwil yn y DU ( RAE 2014 ). Mae thema ymchwil Iechyd, Technoleg, a'r Byd Digidol yn darparu fframwaith ar gyfer yr ymchwil a wneir ym meysydd peirianneg feddygol, ffiseg feddygol ac electroneg feddygol. O fewn y thema hon, mae Cedar yn rhan o Grŵp Ymchwil Peirianneg Fiofeddygol (BERG) sy'n gweithio i ddeall sut mae'r corff yn ymateb i drawma, mewnblaniadau a thechnolegau meddygol eraill. Mae'r ymchwil hon yn caniatáu i ni beiriannu atebion a fydd â buddion cadarnhaol i gleifion a'r diwydiant gofal iechyd.
Mae gweithio ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd yn caniatáu: